Rhif y ddeiseb: P-06-1255 Teitl y ddeiseb: Sicrhau bod tadau/partneriaid geni yn cael eu cynnwys ym mhob asesiad a gofal drwy gydol y cyfnod amenedigol Geiriad y
ddeiseb: Mae’r pandemig COVID-19 a’r rheoliadau
dilynol wedi cael effaith ddinistriol ar lawer o dadau/partneriaid
na chawsant eu caniatáu mewn sganiau, asesiadau neu weithiau
hyd yn oed enedigaeth y babi. Methodd llawer o dadau'r enedigaeth
yn gyfan gwbl tra'n cael eu gadael y tu allan mewn meysydd parcio
am oriau a hyd yn oed ddyddiau. Tra bod yr effaith negyddol ar famau wedi’i amlygu, mae hefyd yn bwysig cydnabod yr effaith ar dadau/partneriaid. Mae cael eu hallgáu fel hyn wedi arwain at faterion o ran lles ac iechyd meddwl, gorbryder a phryderon am iechyd y fam a'r babi tra'n cael eu hamddifadu o brofiadau mor werthfawr a phwysig. |
Yn ystod y pandemig, rhoddwyd cyfyngiadau ar allu tadau/partneriaid geni i fod yn bresennol ar gyfer apwyntiadau mamolaeth a genedigaethau.
Yn yr ymateb i’r ddeiseb ar 1 Mawrth 2022, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi i’r cyfyngiadau ar bresenoldeb mewn lleoliadau gofal iechyd gael eu cyflwyno i sicrhau diogelwch a llesiant y rhieni geni, eu babanod, y staff a oedd yn cefnogi nhw ac eraill a oedd angen defnyddio at wasanaethau mamolaeth ar y pryd.
Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer ymweld ag ysbytai. Mae canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru ar Lefel Rhybudd Sero (Chwefror 2022) yn nodi bod y ffocws yn parhau i fod ar sicrhau cydbwysedd rhwng amddiffyn unigolion agored i niwed sy’n cael triniaeth mewn ysbytai a chaniatáu ymweliadau, sef rhywbeth sy’n bwysig i lesiant cleifion a ffrindiau a theuluoedd.
Yn atodiad 2 o'r canllawiau ar gyfer ymweld ag ysbytai, ceir fframwaith i gynorthwyo byrddau iechyd y GIG i asesu mynediad i bartneriaid, ymwelwyr a phobl eraill sy’n rhoi cymorth i fenywod beichiog yng ngwasanaethau mamolaeth Cymru yn ystod y pandemig.
Mae’r fframwaith wedi cael ei lywio gan ganllawiau a ddarparwyd i GIG Lloegr gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr a’r fframwaith a gyhoeddwyd wedi hynny gan GIG Lloegr (Medi 2020).
Mae Atodiad 2 i’r canllawiau yn nodi ei bod yn ofynnol i fyrddau iechyd deilwra eu polisïau i’r sefyllfa leol, ac y dylai byrddau iechyd adolygu’r canllawiau yn ôl yr angen mewn cyfnodau pan fo cyfraddau trosglwyddiad COVID-19 lleol yn uchel a/neu amrywiolion sy’n peri pryder.
Awgrymir y dylai byrddau iechyd ddefnyddio dull lle mae risgiau wedi cael eu hasesu, yn dilyn asesiad, gan wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol yn ôl cyfraddau trosglwyddiad y feirws yn lleol, naill ai i lacio neu i adfer lefelau blaenorol o gyfyngiadau.
Mae Atodiad 2 i’r canllawiau hefyd yn nodi:
Dylai polisïau ar ganiatáu mynediad i bartneriaid menywod, ymwelwyr neu bobl eraill sy’n rhoi cymorth gael eu hadolygu'n rheolaidd, eu teilwra i'ch cyd-destun lleol ac ystyried:
§ y risg pandemig cenedlaethol bresennol a pholisi'r llywodraeth;
§ cyfnodau adfer y GIG;
§ tueddiadau lleol yn nifer yr achosion o COVID-19;
§ le ffisegol yn y gwasanaeth mamolaeth, gan gynnwys mewn mannau aros ac ystafelloedd clinig;
§ nifer y menywod y disgwylir iddynt fynychu sgan neu glinig cleifion allanol, a'r defnydd o ardaloedd aros sy'n cael eu rhannu â gwasanaethau eraill;
§ nifer y menywod a ddisgwylir mewn uned famolaeth cleifion mewnol (e.e. ward ôl-enedigol), pellter rhwng gwelyau a chotiau yn ogystal â’r llif drwy’r ward; a
§ staffio'r clinig/uned mamolaeth.
Dylid hefyd ystyried anghenion menywod sydd angen cymorth ychwanegol i gael mynediad at wasanaethau mamolaeth ac i unrhyw addasiadau rhesymol y gall fod eu hangen arnynt.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad atodol ar ymweld ag ysbytai yn ystod y pandemig ym mis Mehefin 2021 (fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Ionawr 2022). Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall amrywiadau ddigwydd yn y trosglwyddiad cymunedol mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r canllawiau ar gyfer ymweld ag ysbytai yn nodi’r llinell sylfaen bresennol ar gyfer ymweliadau yng Nghymru yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall darparwyr gofal iechyd y mae’r canllawiau’n gymwys iddynt wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i’r canlynol:
§ lefelau cynyddol o drosglwyddiad COVID-19 yn eu hardaloedd, gan, a/neu dystiolaeth o drosglwyddiad nosocomiaidd o fewn lleoliad penodol; neu
§ lefelau trosglwyddo sy'n gostwng yn eu hardal leol.
Ceir canllawiau pellach yn y datganiad atodol, ond dylai pob penderfyniad i wyro oddi wrth y canllawiau gael ei wneud gan dîm gweithredol y bwrdd iechyd, yr ymddiriedolaeth neu’r hosbis, a hynny gyda'u timau atal a rheoli heintiau eu hunain mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ystod y pandemig, gofynnodd Aelodau o’r Senedd nifer o gwestiynau ysgrifenedig a llafar yn ymwneud â chyfyngiadau ar dadau/partneriaid geni sy’n mynd gyda menywod beichiog i apwyntiadau meddygol ac i’r genedigaethau.
Ar 14 Medi 2021, dywedodd Heledd Fychan AS yn y Cyfarfod Llawn:
[D]wi wedi cael galwadau ffôn ac e-byst eithriadol o emosiynol gan famau yn sôn am effaith hyn o ran eu hiechyd meddwl nhw, tadau yn sôn bod hyn yn effeithio'r bond pwysig yna rhyngddyn nhw â'u plant, ac o ran pediatrig, plant eisiau'r ddau riant yna a phlant yn crio oherwydd eu bod nhw'n methu cael y ddau riant yna gyda nhw. [Paragraff 242]
Mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mai 2021, eglurodd y Prif Weinidog:
Mae'r canllawiau yng Nghymru yn annog y system i fod mor groesawgar â phosibl, ond mae'r rheswm dros ddisgresiwn yn real. Mae unedau mamolaeth ledled Cymru yn amrywio'n fawr o ran maint y safle, natur cynllun adeiladau ac yn y blaen, ac yn amlwg, mae gan unigolion lefelau gwahanol o risg eu hunain. Nid yw coronafeirws wedi diflannu; mae pobl sy'n sâl gyda'r clefyd yn aml yn gorfod mynd i'r ysbyty, ac yn y pen draw mae'n rhaid iddo fod yn benderfyniad clinigol a wneir gan y tîm o bobl sy'n gofalu am y fenyw a'i phartner o ran pa mor ddiogel yw hi i bobl eraill gymryd rhan uniongyrchol mewn apwyntiadau. Nawr, y polisi yw, lle bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny, mai dyna ddylai ddigwydd, ond nid wyf yn credu ein bod mewn sefyllfa yn y Senedd i wneud y penderfyniadau clinigol unigol hynny yn yr amgylchiadau ffisegol gwahanol a'r amgylchiadau unigol y mae pobl yn eu hwynebu. [Paragraff 148]
Cynhaliwyd dadl yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 9 Rhagfyr 2020 ar gymorth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19, lle y trafodwyd y cyfyngiadau a roddwyd ar dadau a phartneriaid geni.
Mewn gohebiaeth â’r Pwyllgor ar 1 Mawrth 2022, cydnabu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’r cyfyngiadau a oedd ar waith yn ystod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar faint o amser y gallai rhai tadau a rhieni ei dreulio gyda’u babanod yn eu dyddiau cyntaf.
Cydnabyddir bod y berthynas â'r ddau riant yn hanfodol i les a datblygiad plentyn o’r dechrau’n deg. Mae'r Gweinidog yn datgan bod 'cefnogi a hybu cyfraniad cadarnhaol gan bob rhiant i fagwraeth plentyn yn ganolog i’n holl bolisïau ar gyfer plant a'r blynyddoedd cynnar'.
Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith bod swyddogion Llywodraeth Cymru, wrth i Gymru gychwyn ar gyfnod newydd yn y pandemig, yn edrych ar y canllawiau a roddwyd i fyrddau iechyd i sicrhau bod polisïau ar gyfer ymweld, gan gynnwys presenoldeb tadau a phartneriaid mewn gwasanaethau mamolaeth, yn gynaliadwy ac yn briodol, a byddant yn ceisio lleihau amrywiaeth mewn polisi ledled Cymru. Bydd y Gweinidog am i’r cyngor hwn gadw’r ddysgl yn wastad rhwng diogelwch pobl a staff mewn lleoliadau gofal iechyd a’u llesiant a’u gallu i gael cymorth a gofal gan deulu a ffrindiau.
Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddodd y Gweinidog £1.15 miliwn i lansio’r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol. Fel rhan o’r Rhaglen hon, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Rheolwr Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n well â rhieni a theuluoedd ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol. Yn ôl y Gweinidog:
Rwy’n awyddus i sicrhau bod profiadau pob rhiant a theulu, gan gynnwys tadau, yn helpu i lywio polisi yn y dyfodol, yn ogystal â diogelwch ein gwasanaethau mamolaeth, amenedigol, a newyddenedigol, a bod y gwasanaethau hyn yn cael eu gwella drwy sicrhau eu bod yn deg ac yn gynhwysol i bawb.
I gefnogi’r gwaith canfod cychwynnol, mae’r Gweinidog yn cynnig bod y swyddog newydd, pan fydd yn dechrau yn ei swydd, yn cwrdd â’r deisebydd i drafod ei brofiadau a thrafod y newidiadau y byddai am eu gweld yn y dyfodol, o ran cynnwys tadau a phartneriaid ac ymgysylltu â nhw.